Life As an Arts Facilitator: Reflecting On Year One
The third year of my degree was slightly less traditional than the average graduating student from the University of South Wales’s...
Rwy’n artist arbrofol amlddisgyblaethol sydd wrth fy modd yn gweithio gydag amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau wahanol. Rwyf yn creu printiau a cherfluniau, celf ddigidol a collage a mwy. Rwy'n hoffi archwilio'r byd o'm cwmpas a themâu hunaniaeth ac archwilio'r hunan. Rwy'n cael fy ysbrydoli'n bennaf gan natur a phobl.
Fel hwylusydd, fy nod yw rhoi lle i bawb. I mi, mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod fy ngweithdai mor hygyrchol ac atyniadol â phosibl er mwyn caniatáu i gynifer o bobl â phosib fwynhau manteision ymgysylltu â chelf.
Rwy'n canolbwyntio'n bennaf ar brosesau, er bod estheteg a sgiliau celf hefyd yn bwysig i mi ac rwy'n ceisio cael cydbwysedd pan fo'n bosibl.
Rwy'n coelio'n gryf yn pwysigrwydd gynrychiolaeth, cynwysoldeb, hygyrchedd, a thegwch. Rwy’n credu y gall celf gael lle ym mywyd pawb, efallai ei fod yn fater o archwilio’r amrywiaeth enfawr o gilfachau a dod o hyd i rywbeth sy’n teimlo’n gywir.
Ymunwch a ni pob dydd Sadwrn yn ganolfan Ucheldre Caergybi ar gyfer ein Clwb Celf! Am fwy o wybodaeth, neu i arbed eich lle, cysylltwch â'r swyddfa docynnau.
Rhan o Lwybr Celf pART of Pontypridd ar gyfer Sioe Raddio Creadigol a Therapiwtig 2022
Ar gyfer y Llwybr Celf roeddwn i eisiau ddod â’r hen draddodiad o llên gwerin i Pontypridd. Yn draddodiadol, mae Llên Gwerin yn cael ei grwpio i ranbarthau; fe welwch lawer o straeon o’r cymoedd sy’n sôn am dirnodau lleol eiconig, rhai’n benodol i Rhondda Cynon Taff, ond roedd yn anodd dod o hyd i rai penodol i’r dref hardd hon. Felly dwi wedi creu stori sydd wedi ei hysbrydoli gan lên gwerin y rhanbarth ynghyd â hanes Pontypridd. Trwy archwilio ‘Tair Pont William Edwards’ welodd ymwelwyr i'r llwybyr gelf arteffactau, cyfrinachau, a chliwiau ar hyd y llwybr cyn dychwelyd i Storyville Books i blymio’n ddwfn i’r stori ei hun ar ffurf ysgrifenedig neu sain!
Diolch o galon i Storyville Books am fy nghroesawu ac i bawb sydd wedi fy nghefnogi i gyrraedd yma.
Am ymholiadau a cwestiynnau defnyddiwch y ffurflen isod a byddaf yn ymdrechu i ateb cyn gyntaf ac sy'n bosib.